Skip to main content

Pwdin Berwi

Disgrifiadau

Cynhwysion

chwech owns o flawd plaen
dwy owns o siwgr
dwy owns o lard neu ymenyn
hanner peint o laeth cynnes
llond llwy de o sinsir
hanner llond llwy de o soda pobi
ffrwythau sych (yn ôl y dewis)

Dull

Cymysgu’r defnyddiau sych mewn dysgl, toddi’r lard neu’r ymenyn yn y llaeth cynnes a’u harllwys ar y cymysgedd i’w wlychu’n drwyadl.
Iro basn, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i orchuddio â phapur ymenyn neu liain.
Rhoi’r basn i sefyll mewn sosban gydag ychydig o ddŵr ynddi.
Berwi’r dŵr am ryw awr a hanner fel y bo’r pwdin yn cael ei goginio yn yr ager a fydd o’i gwmpas.

Yr oedd hwn yn cael ei fwyta’n fynych ar ôl cinio ym Mro Gŵyr yn ystod misoedd y gaeaf.

Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1021
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment