Whipod 1.
Whipod 1.
Disgrifiadau
Cynhwysion
hanner llond cwpan o reis
hanner peint o laeth berw
chwarter llond llwy de o halen
llond llwy fwrdd o siwgr
llond llwy de o ymenyn
un wy wedi’i guro
croen lemon wedi’i falu
Dull
Rhoi’r reis yn wlych mewn dŵr cynnes am dair awr.
Hidlo’r dŵr oddi ar y reis, ei roi mewn sosban ac arllwys y llaeth berw arno.
Ei ferwi am hanner awr cyn rhoi’r siwgr, yr ymenyn a’r halen ynddo.
Ei fud-ferwi eto am ryw ddeng munud, ac yna ei adael i oeri cyn arllwys yr wy iddo’n araf a rhoi’r croen lemon ynddo.
Ei droi a’i godi i’r berw eto nes gwelir y cymysgedd yn tewhau.
Bro Gŵyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment