Skip to main content

Trolis Blawd Plaen

Disgrifiadau

Cynhwysion

chwech owns o flawd plaen
dwy owns o siwet
dwy owns o gyrens
ychydig o halen
llaeth

Dull

Torri’r siwet yn fân a’i gymysgu â’r blawd plaen a’r defnyddiau sych eraill.
Eu gwlychu â llaeth a’u tylino’n does sych.
Rhannu’r toes yn bedwar neu chwe darn cyfartal, a’u llunio’n beli crwn rhwng y ddwy law.
Eu gollwng i lond sosban o ddŵr berw a’u berwi am ryw ugain munud.
Ysgwyd siwgr coch drostynt a’u bwyta’n gynnes.

Llanelli, Caerfyrddin.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
909
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment