Skip to main content

Pwdin Llaeth Brith 1.

Disgrifiadau

Cynhwysion

yr ail neu’r trydydd llefrith ar ôl i fuwch ddod â llo bach
siwgr
halen
sinsir (neu gyrens, yn ôl y dewis)

Dull

Rhoi’r defnyddiau uchod mewn dysgl a’u crasu mewn popty cynnes nes bod y llefrith wedi tewhau. (Gellid ychwanegu ychydig o lefrith cyffredin i’w atal rhag mynd yn rhy dew.)
Rhoi’r defnyddiau uchod mewn jwg neu dun dwfn a chaead arno a rhoi hwnnw i sefyll mewn hanner llond sosban o ddŵr. Codi’r dŵr i’r berw achoginio’r pwdin yn araf yn y gwres hwnnw.

Dyffryn Ardudwy.

Amrywiai’r enwau a roid ar y pwdin hwn mewn gwahanol rannau o Gymru, yn ogystal â’r dull o’i wneud. Er hynny, ‘roedd yn bwdin cyffredin mewn llawer ardal, ac yn debyg o ran ansawdd i gwstard wy. Yr oedd ‘pwdin llo bach’ yn enw cyffredin arno yn siroedd Dinbych a Meirionnydd ac fe’i gelwid yn ‘pwdin llaeth tor’ ym Môn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
2774
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment