Skip to main content

Whipod 2.

Disgrifiadau

Cynhwysion

dau lond llwy fwrdd o flawd plaen
dau lond llwy fwrdd o siwgr
peint o laeth
dwy owns o gyrens
ychydig o halen
talp o ymenyn
ychydig o nytmeg
owns o bîl

Dull

Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth.
Rhoi gweddill y llaeth mewn sosban a’i godi i’r berw.
Pan fo ar fin berwi, ei arllwys ar y cymysgedd blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
Arllwys y cymysgedd hwn yn ôl i’r sosban a’i droi’n ddibaid wrth ei ferwi am bymtheng neu ugain munud.
Dylid ei fwyta’n gynnes bob amser.

Cysylltid y pwdin hwn â thymor y cynhaeaf llafur ar y ffermydd ym Mro Gŵyr. Byddai’r gwragedd yn ei gario allan i’r caeau fel rhan o ginio’r gweithwyr neu fe’i caent i swper gyda bara ‘menyn.

Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1156
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment