Skip to main content

Pwdin Reis

Disgrifiadau

Cynhwysion

llond cwpan te o reis
llond cwpan te o siwgr
pedwar peint o lefrith
ychydig o halen
ychydig o nytmeg

Dull

Rhoi’r reis mewn dysgl fawr, tywallt dŵr oer drosto, dim ond digon i’w orchuddio, a’i roi mewn ffwrn weddol boeth.
Pan welir bod y dŵr wedi sychu a’r reis wedi chwyddo, tywallt y llefrith arno, ychwanegu’r defnyddiau eraill atynt, eu cymysgu’n dda, a malu ychydig o nytmeg ar wyneb y llefrith.
Crasu’r pwdin mewn ffwrn weddol boeth nes ei fod wedi tewhau. (Byddid yn torri wy neu ddau i’r pwdin i’w dewhau weithiau ar achlysuron arbennig.)

Pennant, Maldwyn.

Hwn oedd y pwdin a wneid yn fwyaf cyffredin ar gyfer cinio dydd Sul drwy Gymru gyfan. Ar ddiwrnod crasu bara mewn ffwrn wal, yr oedd hi’n arfer gan lawer i roi llond padell fawr o bwdin reis i grasu ynddi dros nos ar ôl tynnu’r torthau allan ohoni. Byddai’r ffwrn ‘yn dal ‘i gwres’ am rai oriau a chresid y pwdin yn araf yn y gwres hwnnw.

Pan na fyddai hi’n gyfleus i’w grasu mewn ffwrn yr oedd modd berwi’r reis mewn crochan neu sosban wrth ochr y tân.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1906
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment