Pwdin Reis 2.
Pwdin Reis 2.
Disgrifiadau
Cynhwysion
pwys o reis
galwyn o laeth
pwys o gyrens
pwys o resins
hanner pwys o siwgr coch
dwsin o wyau
Dull
Crasu’r pwdin yn araf yn y dull arferol nes ei fod wedi ‘caledu’ i’r un ansawdd â theisen.
Ei dorri’n ddarnau sgwâr a’i fwyta’n oer.
Margam, Morgannwg.
Ar achlysuron arbennig y gwneid y pwdin hwn ym Mro Morgannwg; fe’i cresid mewn pedyll tun mawr i’w cario allan i’r caeau yn ystod tymor y cynhaeaf gwair a’r cynhaeaf llafur.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment