Skip to main content

Pwdin Bara

Disgrifiadau

Cynhwysion

wyth owns o fara sych
dŵr oer
dau wy wedi’u curo
ychydig o laeth
dwy owns o siwgr coch
pedair owns o syltanas neu gyrens

Dull

Rhoi’r bara yn wlych mewn dŵr oer dros nos. (Gellir defnyddio tê oer neu laeth oer yn lle’r dŵr yn ôl y dewis.)
Drannoeth, gwasgu gweddill y dŵr na lyncwyd gan y bara ohono, ac ychwanegu’r wyau, y siwgr coch, y syltanas ac ychydig o laeth ato.
Eu curo’n dda nes cael cymysgedd o’r un ansawdd â chymysgedd teisen gyffredin.
Gellir ei flasu ag ychydig o nymteg, os dymunir.
Iro tun bas, rhoi’r cymysgedd ynddo, ac ychwanegu talpau o ymenyn ar ei wyneb.
Ei grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr nes gwelir bod yr wyneb wedi cochi.
Torri’r pwdin yn ddarnau sgwâr a’i fwyta fel teisen.

Gellir ychwanegu rhagor o laeth at y cymysgedd i’w wneud yn bwdin meddal.

Dowlais, Morgannwg.

Yr oedd hi’n arfer gan amryw o wragedd gweddwon yn y pentrefi glofaol i wneud y pwdin hwn yn arbennig ar gyfer ei werthu, naill ai o’u cartrefi neu yn y farchnad leol, e.e. Cwm-aman, Aberdâr, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
3755
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment