Saws Persli (Pysgod)
Saws Persli (Pysgod)
Disgrifiadau
Cynhwysion
- hanner peint o laeth oer
- pupur a halen
- llond llwy fwrdd o flawd plaen (neu cornflour)
- llond llwy fwrdd o bersli wedi’i dorri’n fân
Dull
- Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth oer.
- Cynhesu gweddill y llaeth mewn sosban ac arllwys y cymysgedd blawd iddo.
- Ei droi’n gyson â llwy bren a’i godi i’r berw.
- Yna rhoi’r persli ynddo, ei flasu â halen, a’i ferwi am funud neu ddwy drachefn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment