Saws Cartref (Pysgod)
Saws Cartref (Pysgod)
Disgrifiadau
Cynhwysion
- melyn dau wy
- ychydig o halen
- hanner llond llwy de o bowdr mwstard
- hanner llond llwy de o siwgr
- llond llwy fwrdd o finegr gwyn
- pedwar llond llwy fwrdd o olew salad (neu olew olewydden)
- tri neu bedwar llond llwy fwrdd o hufen
Dull
- Rhoi melyn yr wyau, y mwstard, yr halen a’r siwgr mewn basn a’u curo’n ysgafn.
- Yna ychwanegu’r olew a’r finegr at y cymysgedd, a’u curo eto. Rhaid eu hychwanegu’n raddol iawn rhag i’r defnyddiau geulo.
- Cymysgu’r cyfan yn dda cyn ychwanegu’r hufen, yn raddol eto, at y saws.
Gwneid y saws hwn i’w fwyta gyda chimwch neu granc oer a salad.
De Penfro.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment