Rhostio Brithyllod 1.
Rhostio Brithyllod 1.
Disgrifiadau
Cynhwysion
- tri neu bedwar brithyll
- halen
- blawd ceirch
- toddion cig moch
Dull
- Agor a glanhau’r brithyllod yn y dull arferol, a’u sychu’n lân. Gellir torri’r pennau a’r cynffonnau i ffwrdd, os dymunir.
- Rhoi ychydig o doddion cig moch i gynhesu mewn dysgl bridd neu dun rhostio yn y ffwrn.
- Gorchuddio’r pysgod â haen o flawd ceirch gydag ychydig o halen wedi’i gymysgu drwyddo, a’u rhoi yn rhes, ochr yn ochr, pen wrth gynffon, ar y toddion cynnes yn y ddysgl.
- Eu gorchuddio â phapur ymenyn neu gaead priodol a’u rhostio mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr.
- Yna tynnu’r gorchudd oddi ar y ddysgl a gadael i wyneb y pysgod gochi yn y ffwrn am ryw ddeng munud eto.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment