Skip to main content

Cochi Eogiaid

Disgrifiadau

Ar ddechrau tymor dal eogiaid byddai’r hen bysgotwyr yn eu cochi. Rhaid oedd gwneud y gwaith hwn yn ystod y tywydd oer ac nid oedd ffordd arall o’u ‘cadw’ gynt. Dyma’r dull a arferid gan bysgotwr profiadol o ardal Cenarth, ar ffin sir Gaerfyrddin:

Dull

  • Hongian yr eog wrth ei gynffon, ei agor o’r gynffon i lawr at y pen, tynnu’r perfedd allan a’i lanhau’n llwyr.
  • Codi’r asgwrn sydd o dan agoriad y pen ôl allan, a llanw’r ceudod â saltpetre.
  • Rhoi rhes o sgiwerod (tua naw modfedd o hyd) ym mol yr eog i’w ddal ar agor, a’i lanw’n llawn â halen.
  • Trin tua dwsin o eogiaid yn yr un modd, a’u rhoi i orwedd ar eu cefnau ar wely o halen mewn cafn pren neu garreg.
  • Eu gorchuddio â halen eto a’u gadael yno am bythefnos.
  • Yna eu codi o’r heli hwn a’u golchi mewn dŵr ffres, rhedegog am dri diwrnod a thair noson. (Gwneud pwll arbennig iddynt yn yr afon a wnâi’r hen bysgotwyr.)
  • Wedyn, hongian yr eogiaid uwchben tân isel o ddail deri wedi crino, a’u gadael i gochi yn y mwg hwnnw am dri diwrnod a thair noson.
  • Hongian yr eogiaid wrth eu cynffonnau ar hoelion mawr yn y simdde lwfer a wneid fel rheol, gan roi canghennau o bren celyn rhyngddynt i’w rhwystro rhag cyffwrdd â’i gilydd na gorffwys ar wal y simdde.
  • Yr oedd hi’n dra phwysig i gadw’r eog mewn lle sych ar ôl ei gochi ac yna gellid ei dafellu yn ôl yr angen.
  • Ffrio tafelli o eog coch mewn ymenyn a wneid fel rheol.

Cenarth, Caerfyrddin.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
563
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment