Skip to main content

Berwi Eog (neu Wyniedyn)

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • darn o eog ffres (tua phwys neu ddau)
  • sbrigyn neu ddau o ffenigl 
  • dŵr
  • ychydig o halen

Dull

  • Rhoi’r defnyddiau i gyd, ac eithrio’r eog, mewn sosban a chodi’r dŵr i’r berw.
  • Gollwng yr eog yn ofalus i’r dŵr berw a’i fud-ferwi  gan ganiatáu pymtheng munud am bob pwys. (Ni ddylid berwi’r eog yn gyflym gan fod perygl iddo chwalu yn y dŵr.)
  • Yna codi’r eog o’r dŵr a’i adael i ddiferu’n llwyr cyn ei dorri’n dafelli, yn ôl y galw.

Yn gyffredin byddid yn ei fwyta’n gynnes gyda saws persli neu yn oer gyda bara ‘menyn neu salad.

Cenarth, Caerfyrddin.

Yn ôl tystiolaeth a gafwyd gan un a fu’n gweini mewn plasdai yn ardal Cenarth a Chastell Newydd Emlyn byddai’r gwŷr bonheddig yn gwneud yn fawr o’u cyfle i ddal neu brynu’r pysgod lleol gynt. Yr un oedd eu dulliau hwy o’u coginio, ond yr oedd ganddynt well cyfleusterau ar gyfer gwneud hynny. Byddent yn medru berwi eog neu wyniedyn cyfan mewn fish kettle ar range y gegin. Paratoent saws persli neu saws anchovy i’w roi gyda’r eog pan fwyteid ef yn gynnes, a saws persli i’w roi gyda’r gwyniedyn cynnes.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
651
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment