Skip to main content

Ageru Eog (neu Wyniedyn)

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • darn o eog (tua phwys)
  • pupur a halen
  • ymenyn
  • dŵr
  • ffenigl  (neu finegr yn ôl y dewis)

Dull

  • Rhoi dŵr ac ychydig o ffenigl ynddo yn rhan isaf sosban ddwbl ; blasu’r eog â phupur a halen, rhoi talp neu ddau o ymenyn ar ei wyneb a’i roi yn rhan uchaf y sosban.
  • Berwi’r dŵr a gadael i’r eog goginio yn yr ager o’i gwmpas am rhyw bymtheng munud, yn ôl maint y darn.
  • Onid oes sosban ddwbl ar gael gellir rhoi’r eog mewn dysgl bridd neu ar blât enamel wedi’i iro  ag ymenyn.
  • Rhoi’r ddysgl neu’r plât i orffwys ar wyneb sosban â dŵr berw ynddi.
  • Gorchuddio’r eog â chaead y sosban a mud-ferwi’r dŵr am ryw bymtheng munud fel y bo’r eog yn coginio’n raddol yn yr ager sy’n codi o’r dŵr.

Yr oedd go-ferwi neu ageru eog yn ddull addas iawn o’i goginio pan fyddai claf yn dioddef oddi wrth unrhyw anhwylder ar y cylla.

Llandysul, Aberteifi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
742
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment