Go-ferwi Eog
Go-ferwi Eog
Disgrifiadau
Cynhwysion
- darn o eog (tua phwys)
- llaeth
- pupur a halen
- deilen lawryf
Dull
- Rhoi deilen lawryf gyda darn o eog mewn sosban, ei orchuddio â llaeth a’i flasu â phupur a halen.
- Go-ferwi’r cyfan am ryw bymtheng munud, yn ôl maint y darn. (Dylid caniatáu pymtheng munud ar gyfer pob pwys.) (Yn yr un modd, gellir rhoi’r defnyddiau mewn dysgl bridd a’u go-ferwi mewn ffwrn weddol boeth.)
- Tafellu’r darn eog a’i fwyta naill ai’n dwym gyda saws persli, neu yn oer gyda bara ‘menyn.
Llangrannog, Aberteifi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment