Skip to main content

Mecryll mewn Saws

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • dau neu dri macrell
  • tri neu bedwar nionyn
  • tri llond llwy fwrdd o finegr gwyn
  • deilen lawryf 
  • ychydig o arlleg
  • ychydig o olew olewydden

Dull

  • Glanhau’r mecryll yn y dull arferol a’u ffrio’n drwyadl.
  • Tynnu’r croen a’r esgyrn ymaith.
  • I wneud y saws, tafellu’r nionod a’u ffrio yn yr olew nes iddynt gochi, ynghyd â’r deilen lawryf a’r garlleg.
  • Yna gadael i’r cyfan oeri cyn ychwanegu’r finegr atynt.
  • Rhoi’r mecryll mewn dysgl ar ôl iddynt oeri a thywallt y saws drostynt.

Yr oedd hwn yn bryd blasus i swper yn ystod misoedd yr haf.

Cricieth, Caernarfon.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
617
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment