Skip to main content

Cochi Penwaig

Disgrifiadau

Dull

  • Glanhau’r penwaig yn y dull arferol, eu rhoi’n rhesi, ochr yn ochr, pen wrth gynffon, mewn padell fawr a’u gorchuddio â halen ac ychydig o saltpetre ynddo.
  • Eu gadael i sefyll yn yr halen dros nos.
  • Hel pentwr o ddail onnen wedi crino, rhoi tân issynt a thaflu ychydig o ddŵr ar wyneb y dail i beri iddynt fygu.
  • Hongian y penwaig ar wialen hir uwchben y tân a’u gadael i ‘gochi’ yn y mwg hwnnw am bedair awr ar hugain. (Cynnau tân allan yn y gegin waith a wneid ar ffermydd, fel rheol.)

Rhostio’r penwaig coch o flaen tân oedd y dull mwyaf cyffredin o’u coginio.

Llangybi, Caernarfon.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
612
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment