Sgadan Hallt
Sgadan Hallt
Disgrifiadau
Dull
- Rhostio sgadan hallt a wneid yn gyffredin yn siroedd de Cymru ac fe’u bwyteid gyda bara ‘menyn i de neu swper.
- Defnyddio fforc hir i’w dal o flaen y tân a’u rhostio yno, bob yn un, a wneid gan amlaf, ond ceir hanes am eu rhostio ar yr ‘alch’ mewn rhai ardaloedd yn ne sir Aberteifi. Math o ffram haearn, agored i’w hongian uwchben y tân oedd yr offeryn hwn, a rhoid dau neu dri o sgadan i orffwys arno i’w rhostio’n araf.
Brynhoffnant, Aberteifi.
Byddid yn golchi’r sgadan hallt a’u sychu cyn eu rhostio mewn rhai ardaloedd. Ar ôl rhoi rhyw ddwsin ohonynt i sefyll mewn dŵr oer am rai diwrnodau gyrrid gwialen fain drwy dyllau ‘u llygaid. Rhoid y sgadan i hongian ar y wialen hon wrth ddwy hoelen ar wal gefn y tŷ a chaent sychu yng ngwres yr haul yno. Bryd arall byddid yn eu hongian, yn yr un modd, yn y simdde fawr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment