Skip to main content

Halltu Penwaig

Disgrifiadau

Yr oedd y penwaig ar eu gorau cyn iddynt ‘fwrw eu brawn’ ddiwedd mis Tachwedd, a dyma’r adeg yr eid ati i’w halltu, fel rheol. Byddai’r dull o halltu penwaig yn anrywio rhyw gymaint o ardal i ardal ond yr un oedd y broses yn ei hanfod:

Dull

  • Glanhau a thynnu perfedd rhyw ddwsin o benwaig allan cyn eu rhoi mewn dysgl bridd go fawr.
  • Eu gorchuddio â halen a’u troi a’u trosi ynddo am ryw awr. (Y mae’r pennog yn ystwytho wrth ei halltu a gellir plygu’r pen at y gynffon pan fydd wedi cymryd digon o halen.) Trin rhyw dri neu bedwar dwsin o benwaig yn yr un dull.
  • Yna rhoi haen drwchus o halen ar waelod casgen neu gelwrn pren.
  • Rhoi rhes o benwaig (ochr yn ochr, pen wrth gynffon) ar y gwely halen hwn a’u gorchuddio â haen arall o halen drachefn.
  • Parhau i’w gosod yn drefnus, haen o benwaig ac o halen bob yn ail, nes gorchuddio’r cyfan â halen.
  • Gadael y penwaig yn yr halen am ryw naw niwrnod: erbyn hynny byddant yn nofio mewn heli.
  • Codi’r penwaig allan o’r heli, eu golchi a’u sychu.
  • Rhoi’r pysgod yn rhesi yn ôl yn y celwrn glân drachefn, a’u gorchuddio â dŵr a halen. Y tro hwn dylid toddi digon o halen mewn dŵr berw fel y bo wy yn medru nofio ar ei wyneb, ac yna ei dywallt dros y penwaig.
  • Gadael y penwaig yn y ‘picil’ hwn a’u defnyddio ohono fel y bo’u hangen. (Dylid newid y picil yn achlysurol.)

Aberdaron, Llŷn.

Cadw’r penwaig rhwng haenau o halen sych a wneid yn siroedd de Cymru – ni fyddai’r halen yn toddi rhyngddynt yr ail dro, e.e. Aber-porth, Aberteifi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
703
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment