Skip to main content

Pennog Picl

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • chwe phennog ffres
  • llond llwy de o sbeis piclo du
  • peint o finegr
  • nionod wedi’u tafellu
  • ychydig o halen
  • tua chwarter peint o ddŵr oer
  • llond llwy de o driog du
  • ychydig o cornflour

Dull

  • Glanhau’r penwaig yn y dull arferol, agor eu boliau a thynnu’r perfedd a’r llinyn arian allan ohonynt.
  • Eu rhoi mewn dysgl bridd (neu enamel) a’u gorchuddio â’r finegr a’r dŵr.
  • Ychwanegu’r sbeis, yr halen a’r nionod atynt i’w blasu.
  • Toddi’r triog du mewn ychydig o ddŵr cynnes a’i dywallt dros y penwaig.
  • Cymysgu ychydig o cornflour mewn dŵr oer i wneud cytew tenau a’i ychwanegu at y gwlybwr yn y ddysgl.
  • Coginio’r cwbl mewn popty araf am ryw awr nes bod esgyrn y penwaig wedi meddalu.

‘Roedd pennog picl a thatws wedi’u crasu yn y popty yn gwneud pryd blasus iawn i ginio neu swper.

Nefyn, Llŷn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
807
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment