Skip to main content

Pennog Ffres

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • pennog ffres
  • saim cig moch

Dull

  • Torri pen y pennog i ffwrdd, ei agor a’i lanhau’n drwyadl.
  • Ei ffrio mewn saim cig moch nes y bo’r croen wedi crimpio  ar y ddwy ochr.

Bwyteid penwaig wedi’u ffrio gyda thatws wedi’u berwi yn eu crwyn i ginio.

Nefyn, Llŷn, ac Aber-porth, Aberteifi.

Byddid yn ffrio ‘nionod a phenwaig ffres ar gyfer te neu swper.

Nefyn, Llŷn.

Yr oedd bwdram  a ‘sgadan yn bryd poblogaidd yn ne sir Aberteifi ar un adeg, e.e. Brynhoffnant, Aberteifi.

‘Ysgadedyn’ yw’r enw a arferir am herring yn siroedd de Cymru a ‘pennog’ yw’r enw a arferir arno yn siroedd y gogledd. Yr oedd dal y pysgod hyn a’u gwerthu yn ddiwydiant pwysig ym mhentrefi glan y môr yn ystod misoedd yr hydref. Gwerthid hwy o ddrws i ddrws, rhyw saith ohonynt am chwe cheiniog, a defnyddid ceffyl a chart i’w cario o gwmpas y ffermydd cyfagos. Weithiau fe glywid y gwerthwr yn gweiddi rhigwm arbennig, e.e., ‘Sgadan Aber-porth

Dau fola ac un corf.’

‘Penwaig Nefyn, penwaig Nefyn

‘U cefna fel cefna hen ffarmwrs

A’u bolia fel bolia tafarnwrs – penwaig ffres!’

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
846
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment