Skip to main content

Pastai Gocos

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • cocos
  • dŵr a halen
  • dyrnaid  o flawd ceirch
  • pupur a halen
  • saws gwyn (wedi’i wneud o flaen llaw)
  • caws neu grwst brau 

Dull

  • Rhoi’r cocos mewn dŵr a halen dros nos ac ychwanegu’r blawd ceirch atynt. (Y mae’r blawd ceirch yn helpu i lanhau’r cocos.)
  • Drannoeth, berwi’r cocos mewn dŵr glân nes gwelir bod y cregyn wedi agor.
  • Yna tynnu’r cocos allan o’u cregyn a’u rhoi mewn dysgl, eu blasu â phupur a halen, a’u gorchuddio â saws gwyn.
  • Rhoi haen drwchus o gaws wedi’i falu ar wyneb y saws neu orchuddio’r cyfan â haen o grwst brau.
  • Crasu’r bastai mewn ffwrn boeth nes gwelir bod ei hwyneb wedi cochi.

De Penfro.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
910
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment