Skip to main content

Cocos ac Wyau

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • tua chwart o gocos (yn eu cregyn)
  • dau neu dri wy wedi’u curo
  • saim cig moch
  • pupur du

Dull

  • Tywallt dŵr dros y cocos mewn sosban a’u codi i’r berw. (Peidio â’u gor-ferwi gan fod hynny’n peri iddynt fynd yn wydn.)
  • Tynnu’r cocos allan o’u cregyn, eu golchi’n drwyadl a’u taenu ar liain mawr i’w sychu.
  • Yna eu ffrio mewn ychydig o saim cig moch, a’u troi a’u trosi yn y saim cyn tywallt yr wyau arnynt.
  • Cymysgu’r cyfan â llwy bren wrth eu ffrio, a’u blasu â phupur du.

Cricieth, Caernarfon.

Byddid yn bwyta’r cocos a’r wyau gyda brechdan o fara haidd a bara ceirch yn ardal Porthmadog, ac fe’u cyfrifid yn foethyn yno. Byddai gwragedd Penrhyndeudraeth yn cerdded i Borthmadog gynt i werthu cocos. Aent o ddrws i ddrws gan ddawnsio a chanu’r rhigwm:

‘Cocos a wya

Bara ceirch tena

Merched y Penrhyn

Yn ysgwyd ‘u tina!’

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1177
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment