Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion




  • tua llond mesur chwart o rython 

  • llaeth

  • cennin syfi neu bersli wedi’u torri’n fân

  • halen

  • blawd



Dull



  • Berwi’r rhython yn y llaeth, ychwanegu’r cennin neu’r persli atynt a’u blasu â halen.

  • Cymysgu ychydig o flawd mewn llaeth oer, ei arllwys at y gweddill yn y sosban a berwi’r cyfan drachefn.

  • Bwyta’r ‘saws’ hwn yn gynnes gyda bara ‘menyn.



Garnant, Caerfyrddin.



Arferai gwragedd fynd o gwmpas y tai mewn rhai pentrefi yn ne Cymru i werthu cocos. Aent o ddrws i ddrws gan gario ‘cocs rhython’ mewn stwc  bren ar y pen a ‘chocs cregyn’ mewn basged fawr ar y fraich. Yr oedd y cocs rhython wedi’u berwi a’u tynnu allan o’u cregyn, ond nid oedd y cocs cregyn wedi’u trin o gwbl. Gwerthid y naill am tua naw ceiniog y peint a’r lleill am chwe cheiniog y peint.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw