Tarten Lygaid
Tarten Lygaid
Disgrifiadau
Cynhwysion
- llygaid y graig
- darnau bach o gig gwyn mochyn
- blaen cenhinen wedi’i thorri’n ddarnau bach (heb gynnwys y dail)
- crwst brau
Dull
- Berwi’r ‘llygaid’ yn eu cregyn am ryw hanner awr i’w breuhau.
- Yna eu tynnu allan o’r cregyn, eu golchi’n lân a’u torri’n chwarteri.
- Rhoi haen o grwst brau ar blât dwfn a’i orchuddio â’r llygaid gyda’r darnau cig gwyn a’r cennin ar eu hwyneb.
- Blasu’r cyfan â phupur a halen a’u gorchuddio â haen arall o grwst.
- Crasu’r darten mewn ffwrn boeth am yr hanner awr gyntaf a’i chadw mewn ffwrn weddol boeth am hanner awr arall.
Bwyteid y darten hon yn gynnes i ginio neu swper fel rheol.
Aber-porth, Aberteifi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment