Skip to main content

Gwichiaid

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • tua llond mesur chwart o wichiaid
  • dŵr a halen

Dull 1.

  • Rhoi’r gwichiaid mewn sosban, eu gorchuddio â dŵr ac ychydig o halen ynddo a’u codi i’r berw. Ni ddylid eu berwi gan fod hynny’n peri iddynt fynd yn wydn ond eu gadael i oeri yn y dŵr berw hwn.
  • Yna eu tynnu allan o’u cregyn, eu blasu â phupur a halen a’u bwyta ar unwaith.

Aberdaron, Llŷn.

Dull 2.

  • Berwi’r gwichiaid mewn dŵr a halen am ryw hanner awr nes gwelir hwy’n dod allan o’u cregyn.
  • Yna eu ffrio mewn ychydig o saim cig moch a thorri wy neu ddau drostynt.
  • Cymysgu’r gwichiaid i mewn i’r wyau â llwy bren wrth eu ffrio, neu gadw’r wyau’n gyfan, yn ôl y dewis.

Nefyn ac Ynys Enlli.

Yr oedd hi’n gred gyffredin ymhlith yr hen bobl na ddylid bwyta gwichiaid oni fyddai’r llythyren ‘r’ yn enw Saesneg y mis. Aent hwy i’w hel mewn tyllau o dan gerrig neu wymon ar y traeth, gyda’r trai.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
777
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment