Dinca Fala
Dinca Fala
Disgrifiadau
Cynhwysion
- deg owns o flawd codi
- pum owns o ymenyn
- pum owns o siwgr coch bras
- pwys o afalau
- ychydig o laeth
Dull
- Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd, ac ychwanegu’r afalau (wedi’u torri’n ddarnau bach) a’r siwgr atynt.
- Gwlychu’r defnyddiau â llaeth nes cael cymysgedd gweddol sych.
- Iro tun bas a rhoi’r cymysgedd ynddo i’w grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr.
Yr Eglwys Newydd, Morgannwg.
Cresid y cymysgedd hwn mewn ffwrn dun o flaen y tân mewn rhai ardaloedd ym Morgannwg.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment