Skip to main content

Teisen Reis

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • dau lond cwpan o reis
  • ychydig o halen
  • dŵr
  • pwys o flawd plaen
  • hanner pwys o ymenyn
  • llond llwy de o bowdr codi
  • pedwar wy
  • llaeth
  • siwgr – yn ôl y dewis
  • ychydig o nytmeg

Dull

  • Berwi’r reis mewn dŵr a halen nes bod y reis wedi digoni a’r dŵr wedi sychu.
  • Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r reis atynt ynghyd â’r defnyddiau sych eraill.
  • Eu gwlychu â’r wyau a’r llefrith nes cael cymysgedd o ansawdd cytew ysgafn.
  • Iro tun bas a thywallt y cymysgedd iddo.

Mewn ffwrn dun o flaen y tân y cresid y deisen hon ond gellir rhoi cynnig ar ei chrasu heddiw mewn tun, naill ai o dan gridyll ffwrn nwy neu drydan gan gadw’r deisen yn ddigon isel o dano, neu mewn ffwrn weddol boeth.

Nantgarw, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
628
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment