Skip to main content

Teisen Mêl a Sinsir

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • pedwar llond cwpan o flawd plaen
  • dau lond llwy de fawr o bowdr codi
  • dau lond llwy de fawr o sinsir mâl
  • hanner llond cwpan o syltanas
  • hanner llond cwpan o geirios
  • ychydig o gandi pîl
  • pedair owns o ymenyn
  • dau wy
  • tri chwarter llond cwpan o fêl
  • ychydig o halen
  • ychydig o laeth

Dull

  • Gogryn y blawd, y powdr codi, yr halen a’r sinsir i fasn ac ychwanegu’r syltanas, y candi pîl a’r ceirios (wedi’u torri yn eu hanner) atynt.
  • Toddi’r ymenyn mewn sosban a chymysgu’r mêl ag ychydig o laeth iddo.
  • Gadael i’r cymysgedd hwn oeri, ac yna ei arllwys ef ynghyd â’r wyau i mewn yn raddol i’r defnyddiau sych.
  • Cymysgu’r cyfan yn drwyadl.
  • Iro tun ymyl-uchaf yn dda, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth.

Y mae’r teisen hon yn gwella o’i chadw am ryw bythefnos cyn ei bwyta.

Llanwenog, Aberteifi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
991
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment