Teisennau ‘Berffro
Teisennau ‘Berffro
Disgrifiadau
Cynhwysion
- dwy owns o siwgr mân
- pedair owns o ymenyn
- chwech owns o flawd
Dull
- Rhwbio’r ymenyn i’r blawd a’r siwgr, a’u cymysgu’n dda nes iddynt glymu yn ei gilydd.
- Llunio’r toes yn un rholyn hir.
- Torri’r rholyn yn ddau ar hugain o ddarnau cyfartal.
- Rhoi ychydig o flawd ar gragen a gwasgu pob darn o’r toes arni nes bod ôl y gragen ar y deisen.
- Rhoi’r teisennau ar dun ymyl-isel a’u crasu mewn popty cynnes – ni ddylent gochi.
- Taenu siwgr drostynt pan font yn boeth.
Llanfachreth, Môn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment