Skip to main content

Cacen Ann Dafis

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • pwys a hanner o flawd plaen
  • pwys a hanner o gyrens
  • pwys o siwgr
  • chwarter pwys o ymenyn
  • hanner pwys o lard
  • hanner llond llwy de o nytmeg
  • hanner llond llwy de o sbeis cymysg
  • hanner llond llwy de o soda pobi
  • hanner llond llwy de o bowdr codi
  • chwarter llond llwy de o halen
  • hanner peint o laeth
  • dau wy wedi’u curo

Dull

  • Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd a’r siwgr, ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
  • Gwneud pant yn y canol i dderbyn yr wyau a chymysgu’r cyfan, gan ychwanegu’r llaeth yn raddol, nes cael cytew heb fod yn rhy sych.
  • Iro dau dun ymyl-uchel, rhannu’r cymysgedd yn gyfartal rhyngddynt, a’u crasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr a hanner.

Cadwai Ann Dafis siop yng Nghydweli. Crasai fara a chacennau mewn ffwrn fawr y tu cefn i’r siop yn arbennig ar gyfer eu gwerthu. Yr oedd galw mawr am ei chacen ffrwythau, a gwerthid hi am chwecheiniog y pwys.

Bu Miss Dafis farw yn ystod misoedd y Gwanwyn 1928.

Cydweli, Caerfyrddin.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
785
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment