Skip to main content

Teisen Dros Nos

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • hanner pwys o flawd
  • pedair owns o ymenyn neu lard
  • tair neu bedair owns o ffrwythau sych, cymysg
  • llond llwy de o sinamon
  • llond llwy de o sinsir
  • hanner llond llwy de o soda pobi
  • llond llwy fwrdd o finegr
  • llefrith

Dull

  • Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
  • Eu gwlychu’n raddol â llefrith nes cael cytew gweddol feddal.
  • Cymysgu’r soda yn y finegr yn gyflym, ei dywallt i’r cytew a’i gymysgu drwyddo’n drwyadl.
  • Gadael i’r cytew sefyll dros nos.
  • Iro tun ymyl-uchel a gorchuddio’i waelod a’i ochrau â haen o bapur ymenyn.
  • Rhoi’r cytew ynddo a’i grasu mewn popty gweddol boeth am awr neu awr a chwarter.

Caernarfon.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
817
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment