Skip to main content

Miogod Sir Benfro

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • pwys o flawd
  • owns o furum
  • dwy owns o siwgr
  • hanner owns o lard
  • hanner owns o ymenyn
  • dwy owns o gyrens
  • owns o bîl
  • ychydig o ddŵr a llefrith cynnes

Dull

  • Rhwbio’r ymenyn a’r lard i’r blawd a chymysgu’r defnyddiau sych eraill drwyddynt.
  • Toddi’r burum mewn ychydig o ddŵr cynnes a’i roi mewn pant yng nghanol y cymysgedd.
  • Ychwanegu ychydig o ddŵr a llefrith cynnes at y burum a gweithio’r defnyddiau sych i mewn iddynt yn raddol nes cael toes meddal.
  • Gadael i’r toes godi am ryw bymtheng munud mewn lle cynnes.
  • Yna ei dylino eto ar fwrdd pren a llunio cacennau bach crwn ohono.
  • Lledu’r cacennau â rholbren a’u gadael i ail godi am ddeng munud.
  • Crasu’r cacennau mewn ffwrn boeth am ryw ugain munud nes eu body n felyngoch eu lliw.

Rhiwbeina, Morgannwg.

‘Roedd hi’n arfer mewn rhai ardaloedd yn sir Benfro i baratoi’r cacennau hyn yn arbennig i’w rhoi’n galennig i’r plant ar ddydd Calan. Byddai gwraig y tŷ yn crasu dros hanner cant ohonynt ar y tro ar waelod y ffwrn frics, a c hariai’r plant hwy adref mewn cas gobennydd ar eu cefnau. Fel rheol, caent ddwy gacen yr un ym mhob tŷ. Aent o ddrws i ddrws i ganu neu adrodd rhigwm yn dymuno’n dda i deuluoedd yr ardal ar ddechrau blwyddyn newydd.

‘Roedd ‘cace’ yn enw cyffredin arall arnynt.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1170
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment