Skip to main content

Poten Dato

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • tato
  • llaeth
  • un wy wedi’i guro
  • siwgr
  • cyren
  • blawd plaen
  • sbeis
  • dŵr
  • ychydig o halen

Dull

  • Berwi llond sosban o dato mewn dŵr a halen nes eu bod yn ddigon.
  • Arllwys y dŵr ohonynt, a’u rhoi mewn dysgl fawr.
  • Rhoi talp neu ddau o ymenyn gyda’r tato a’u ‘pwnno’ nes eu body n hollol lyfn.
  • Yna ychwanegu’r blawd, siwgr a chyrens ac ychydig o sbeis atynt. (Ni fyddid yn pwyso’r defnyddiau hyn; byddai’r wraig yn eu hychwanegu’n ôl ei chwaeth bersonol hi.)
  • Gwlychu’r cyfan â’r wy ac ychydig o laeth nes cael cymysgedd o ansawdd gweddol wlyb.
  • Iro tun bas, rhoi’r cynnwys hwn ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth.

Trefdraeth, Penfro.

Gwneid y deisen hon yn gyffredin yn sir Benfro ac yn sir Aberteifi adeg codi tato yn yr Hydref. Ar ddiwrnod crasu bara yn y ffwrn frics byddid yn gwneud llond padell fawr ohoni a’i gadael i grasu’n araf yn y ffwrn honno dros nos. Byddai’r ffwrn yn cadw’i gwres am rai oriau ar ôl gorffen crasu’r bara ynddi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
977
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment