Skip to main content

Teisen Te Deg

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • hanner pwys o flawd plaen
  • tair owns o siwgr
  • dwy owns o ymenyn
  • dwy owns o lard
  • un wy
  • hanner llond cwpan o laeth
  • hanner llond llwy de o halen
  • hanner llond llwy de o bowdr codi

Dull

  • Curo’r saim a’r siwgr gyda’i gilydd, torri’r wy iddynt a’u curo drachefn.
  • Ychwanegu’r blawd a’r halen a’r powdr codi atynt yn raddol, a’u gwlychu â’r llaeth nes cael cymysgedd o’r un ansawdd â chymysgedd teisen gyffredin. (Gellir rhoi dyrnaid o gyrens ynddo, yn ôl y dewis.)
  • Iro tun ymyl-uchel, rhoi’r hyn a ddarparwyd ynddo, a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am awr.

Paratoid y deisen hon i’w bwyta gyda chwpaned o de ar ganol y bore yn ardal Llanbedr Pont Steffan.

Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1047
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment