Teisen Ffwrdd â Hi
Teisen Ffwrdd â Hi
Disgrifiadau
Cynhwysion
- dwy owns o ymenyn
- dwy owns o siwgr
- dwy owns o gyrens
- hanner pwys o flawd
- ychydig o halen
- llefrith
Dull
- Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
- Gwlychu’r defnyddiau hyn yn raddol â llefrith nes cael cymysgedd gweddol wlyb.
- Iro tun ymyl-isel, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn popty gweddol boeth.
Y mae modd crasu’r deisen hon yn araf ar y radell ond dylid cadw’r cymysgedd yn weddol sych ar gyfer gwneud hynny. Gellir hollti’r deisen radell pan fo’n boeth a rhoi ymenyn arni.
Môn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment