Skip to main content

Cacen Goch

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • hanner pwys o flawd plaen
  • dwy owns a hanner o ymenyn
  • pedair owns o ffrwythau cymysg
  • llond llwy fwrdd o driog du
  • dau llond llwy fwrdd o siwgr
  • ychydig o sbeis
  • llefrith neu laeth enwyn

Dull

  • Rhwbio’r ymenyn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u gwlychu â’r llefrith a’r triog.
  • Ni ddylai’r cymysgedd fod yn rhy wlyb.
  • Iro plât enamel, rhoi’r cymysgedd arno a’i grasu mewn popty gweddol boeth am ryw awr.

Enw arall ar y deisen hon ar Ynys Enlli oedd ‘tamad’ – teisen gyffredin a fwyteid yno i de prynhawn.

Ynys Enlli.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
853
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment