Skip to main content

Cacen Lard

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • pwys o does bara
  • wyth owns o lard
  • pedair owns o gyrens
  • dwy owns o bîl lemon
  • dwy owns o siwgr

Dull

  • Taenu ychydig o flawd ar fwrdd pren, rhoi’r toes arno a’i yrru’n hirsgwar hyd at ryw fodfedd o drwch.
  • Rhannu pob un o’r defnyddiau eraill yn bedwar a’u gweithio i mewn i’r toes fel hyn: lledu dwy owns o lard ar y toes â chyllell a rhoi owns o gyrens a hanner owns o bîl ar ei wyneb.
  • Ysgwyd ychydig o siwgr a blawd drostynt ac yna plygu’r toes yn ddau.
  • Gyrru’r toes eto, lledu chwarter arall o’r defnyddiau arno yn yr un drefn, a’i blygu.
  • Gwneud yr holl broses bedair gwaith a cheisio trafod y toes mor ysgafn ag sy’n bosibl.
  • Rhoi’r cymysgedd mewn tun wedi’i iro, a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr.
  • Torri’r gacen yn ddarnau bach sgwâr, rhoi ymenyn arnynt a’u bwyta’n gynnes neu’n oer.

Ton Pentre, Morgannwg.

Yr oedd hon yn gacen a wneid yn gyffredin ym Morgannwg ar ddiwrnod crasu bara.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1335
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment