Cacen Llaeth Enwyn
Cacen Llaeth Enwyn
Disgrifiadau
Cynhwysion
- pwys o flawd
- hanner pwys o ymenyn
- hanner pwys o gyrens
- hanner pwys o syltanas
- dwy owns o gandi pîl
- hanner pwys o siwgr coch
- hanner peint o laeth enwyn
- ychydig o bowdr codi neu soda pobi
- ychydig o sbeis, yn ôl y dewis
- Rhwbio’r ymenyn i’r blawd a chymysgu’r defnyddiau sych eraill drwyddynt yn drwyadl.
- Eu gwlychu’n raddol â llaeth enwyn nes cael cymysgedd gweddol sych.
- Iro tun ymyl-uchel, gorchuddio’r gwaelod a’r ochrau â haen o bapur ymenyn cyn rhoi’r cymysgedd ynddo, a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am awr a hanner neu ddwy awr.
Gellir gwneud y deisen hon pan fo wyau’n brin.
Cellan, Aberteifi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment