Skip to main content

Cacen Llaeth Berw

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • pwys o flawd
  • hanner pwys o ymenyn
  • chwech owns o siwgr brown
  • hanner pwys o gyrens
  • hanner pwys o resins
  • ychydig
  • tri wy
  • hanner peint o laeth berw
  • hanner llond llwy de o soda pobi

Dull

  • Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
  • Curo’r wyau a’u harllwys i ganol y defnyddiau sych.
  • Eu gwlychu’n raddol â’r llaeth berw (ar ôl toddi’r soda ynddo) a churo’r cymysgedd yn dda.
  • Iro tun ymyl-uchel, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn ffwrn boeth.

Ye Eglwys Newydd, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
689
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment