Skip to main content

Bara Brau

Disgrifiadau

Cynhwysion

hanner pwys o ymenyn
deuddeg owns o flawd gwenith
chwarter pwys o flawd reis
hanner pwys o siwgr

Dull

Curo’r ymenyn mewn basn i’w feddalu ac yna gogryn y blawd drosto a’i weithio i mewn iddo.
Ychwanegu’r siwgr a’r blawd reis at y cymysgedd a’i dylino’n does llyfn.
Rhannu’r toes yn bedwar darn a llunio torth gron, fflat o bob un ohonynt.
Crychu ymyl y torthau â bys a bawd, eu brathu’n ysgafn â blaen fforc a’u crasu ar dun ymyl-isel mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr.

Arferid gwneud y bara brau hwn ar gyfer y nosweithiau llawen a gynhelid yn y ffermdai yn sir Faesyfed.

Llandrindod, Maesyfed.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/9/2016
Gwelediadau:
812
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment