Skip to main content

Bara Sinsir (Llandrindod, Maesyfed)

Disgrifiadau

Cynhwysion

tri chwarter pwys o flawd plaen
tair owns o ymenyn
dwy owns o gandi pîl
hanner llond llwy de o soda pobi
llond llwy de o bowdr tartar
pedwar llond llwy de o sinsir mâl
dau wy
chwech owns o driog du
chwech owns o siwgr coch bras
ychydig o lefrith cynnes

Dull

Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n dda.
Toddi’r triog yn y llefrith cynnes, curo’r wyau a thywallt y naill ar ben y llall.
Eu hychwanegu’n raddol at y defnyddiau eraill gan gymysgu’r cyfan yn drwyadl.
Iro tun lled-fas, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn popty poeth am ryw awr o amser.
Dylid gadael i’r deisen oeri cyn ei thorri’n ddarnau sgwâr.

‘Roedd y bara sinsir hwn yn boblogaidd iawn yn sir Faesyfed, ac fe’i gwerthid yn y ffeiriau yno.

Llandrindod, Maesyfed.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/9/2016
Gwelediadau:
842
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment