Bara Sinsir (Llanybydder, Caerfyrddin)
Disgrifiadau
Cynhwysion
hanner pwys o flawd plaen
dau lond llwy de o sinsir mâl
llond llwy de o sbeis cymysg
dwy owns o ymenyn
wyth llond llwy fwrdd o driog du neu driog melyn
owns o siwgr coch, meddal
un wy
chwarter peint o laeth
hanner llond llwy de o soda pobi
Dull
Toddi’r triog, yr ymenyn a’r siwgr uwchben gwres isel.
Gogryn y blawd, y sinsir, y sbeis a’r soda i ddysgl fawr ac arllwys y triog toddedig, etc., arnynt.
Curo’r wy a’r llefrith, eu hychwanegu at y defnyddiau eraill a’u cymysgu’n drwyadl.
Iro tun ymyl-isel a gorchuddio’i waelod â haen o bapur ymenyn.
Rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw ddeugain munud.
Llanybydder, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment