Bara Carwe
Bara Carwe
Disgrifiadau
Cynhwysion
pwys o flawd plaen
ychydig o bowdr codi
llond llwy de o halen
hanner llond llwy fwrdd o hadau carwe
owns o siwgr
dwy owns a hanner o ymenyn
wy
chwarter peint o laeth
Dull
Gogryn y blawd a’r halen i ddysgl, rhwbio’r ymenyn iddynt a chymysgu’r defnyddiau sych eraill drwyddynt.
Curo’r wy a’r llaeth gyda’i gilydd a’u defnyddio’n raddol i wlychu’r cymysgedd nes cael toes ysgafn.
Iro tun bara, rhoi’r toes ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr.
Aberystwyth, Aberteifi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment