Bara Carwe Sir Fôn
Bara Carwe Sir Fôn
Disgrifiadau
Cynhwysion
pwys o flawd plaen
ychydig o bowdr codi
dwy owns a hanner o ymenyn
owns o siwgr
hanner owns o hadau carwe
hanner peint o laeth
ychydig o halen
Dull
Gogryn y blawd i ddysgl a rhwbio’r ymenyn iddo.
Ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt, eu gwlychu â’r llaeth, a’u tylino’n does ysgafn.
Rhoi’r toes mewn tun wedi’i iro, a’i grasu mewn popty gweddol boeth am ryw awr.
Biwmares, Môn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment