Skip to main content

Bara Planc

Disgrifiadau

Cynhwysion

dau bwys o flawd
chwarter llond llwy de o halen
chwarter llond llwy de o siwgr
owns o furum
llaeth cynnes
ychydig o ddŵr cynnes

Dull

Gogryn y blawd, y siwgr a’r halen i badell gynnes.
Cymysgu’r burum ag ychydig o ddŵr cynnes a’i adael i ‘weithio’ am rai munudau.
Yna ei arllwys i bant yng nghanol y defnyddiau sych gan ychwanegu llaeth cynnes, yn ôl yr angen, nes cael toes meddal.
Gadael i’r toes hwn godi mewn lle cynnes am ryw awr neu awr a hanner.
Rhannu’r toes a’i lunio’n dorthau hwylus yn ôl maint y planc, gan ofalu peidio â’u gwneud yn rhy drwchus.
Crasu’r torthau ar y ddwy ochr ar blanc gweddol boeth.

Crymych, Penfro.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/9/2016
Gwelediadau:
1194
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment