Bara Can
Disgrifiadau
Cynhwysion
pwys o flawd gwyn
hanner owns o furum
owns o ymenyn
wy
ychydig o halen
hanner peint o laeth claear
Dull
Rhoi’r blawd a’r halen mewn dysgl a rhwbio’r ymenyn i mewn iddynt.
Toddi’r burum mewn dŵr cynnes, a churo’r wy mewn dysgl arall.
Gwneud pant yng nghanol y blawd ac arllwys y burum, yr wy a’r llaeth iddo.
Eu cymysgu’n dda â llwy bren cyn dechrau gweithio’r blawd i mewn iddynt yn raddol.
Yna tylino’r toes nes ei fod yn feddal ac yn ystwyth, a’i lunio’n dorth.
Iro tun, rhoi’r dorth ynddo a’i gadael i godi mewn lle cynnes nes gwelir bod ei maint wedi dyblu.
Crasu’r dorth mewn ffwrn boeth am ryw hanner awr.
Rhydlewis, Aberteifi.
Moethyn i’w fwyta ar y Sul yn unig oedd y bara hwn.
Llanrhystud, Aberteifi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment