Bara Gwenith
Disgrifiadau
Cynhwysion
dau bwys o flawd gwenith
tri chwarter owns o furum ac ychydig o siwgr
ychydig o halen
ychydig o ymenyn (yn ôl y dewis)
peint o ddŵr cynnes
Dull
Rhoi’r blawd mewn padell wedi’i chynhesu ymlaen llaw a chymysgu’r halen drwyddo.
Cymysgu’r burum a’r siwgr mewn dysgl ac ychwanegu ychydig o’r dŵr cynnes atynt.
Gwneud pant yng nghanol y blawd a thywallt y burum a’r siwgr iddo.
Taenu ychydig o flawd dros wyneb y burum, gorchuddio’r badell â lliain glân a’i gadael mewn lle cynnes am ryw ugain munud.
Yna tylino’r toes yn dda gan ychwanegu’r dŵr cynnes fel y bo angen. Rhaid i’r toes hwn fod yn feddalach na thoes blawd gwyn.
Rhoi lliain dros wyneb y badell eto a’i gadael mewn lle cynnes am ryw awr o amser er mwyn i’r toes godi.
Iro tuniau bara a’u rhoi mewn lle cynnes.
Yna codi’r toes i fwrdd pren, ei rannu, a’i foldio’n dorthau yn ôl maint a siâp y tuniau.
Rhoi’r toes yn y tuniau a’i adael i godi eto am hanner awr cyn crasu’r torthau mewn popty cymharol boeth am ryw awr. (Y mae rhwbio ychydig o ymenyn i’r blawd gwenith yn help i rwystro’r bara rhag sychu’n fuan.)
Y Bala, Meirionnydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment