Bara Crai
Disgrifiadau
Cynhwysion
pwys o flawd gwyn
hanner llond llwy de o halen
hanner llond llwy de o soda pobi
hanner peint o laeth enwyn
(ychydig o gyrens, weithiau)
Dull
Rhoi’r blawd mewn dysgl a chymysgu’r halen (a’r cyrens) drwyddo.
Toddi’r soda yn y llaeth enwyn, tywallt ychydig ohono i bant bach yng nghanol y blawd a chymysgu’r toes, gan ychwanegu gweddill y llaeth enwyn fel y bo angen.
Gyrru’r toes yn ysgafn â rholbren a llunio torth gron ohono.
Iro padell ffrio neu radell a’i chynhesu cyn rhoi’r dorth arni.
Crasu’r dorth nes bod yr ochr isaf yn cochi’n ysgafn ac wyneb y dorth yn dechrau caledu, ei throi, a’i chrasu ar yr ochr arall.
Banwy Uchaf, Trefaldwyn.
Yr oedd hi’n arfer gan wragedd i wneud bara o’r math hwn pan nad oedd ganddynt amser i wlychu toes yn y dull arferol a hwythau heb lawer o fara yn y tŷ. Nid yr un oedd yr enw a roid arno ymhob ardal, ac yr oedd ei gynnwys hefyd yn amrywio rhyw gymaint yn ôl arfer ardal. Defnyddid naill ai dŵr neu laeth enwyn i wlychu’r toes, a gellid cynnwys ychydig o siwgr a chyrens ynddo yn ôl y dewis. Arferid yr enwau canlynol arno mewn gwahanol rannau o Gymru: ‘bara crai’ (Aberaeron), ‘bara cri’ (Bont Dolgadfan), ‘bara llaeth enwyn’ (Crug-y-bar), ‘bara soda’ (Pennant, Llanbryn-Mair), a ‘bara trw’r dŵr’ (Abergorlech).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment