Skip to main content

Bara Brith 1.

Disgrifiadau

Cynhwysion

tri phwys o flawd plaen
dwy owns o furum
pedair owns ar ddeg o siwgr coch
wyth owns o lard
dwy owns o ymenyn
pwys yr un o gyrens, syltanas a resins
tair owns o gandi lemon
llond llwy bwdin o driog
tri llond llwy de o halen
dau wy wedi’u curo
dŵr cynnes

Dull

Toddi’r burum mewn ychydig o ddŵr cynnes ynghyd â’r triog a’i adael i ‘weithio’ mewn lle cynnes.
Toddi’r lard a’r ymenyn ac ychwanegu’r wyau a’r siwgr atynt.
Rhoi’r blawd a’r ffrwythau a’r halen mewn padell gynnes a’u gwlychu’n raddol â’r burum a’r triog ac â chymysgedd yr wyau, y lard a’r ymenyn.
Tylino’r toes yn dda a’i roi i godi mewn lle cynnes am dair awr neu ragor.
Iro tuniau a’u rhoi mewn lle cynnes.
Codi’r toes i fwrdd pren nag ychydig o flawd arno, ei dylino a’i lunio’n dorthau yn ôl maint y tuniau.
Gadael i’r toes godi yn y tuniau eto nes i’w faint ddyblu.
Crasu’r torthau mewn popty cynnes iawn am yr awr gyntaf (450°F), popty cynnes (400°F) am yr ail awr a phopty gweddol gynnes (300°F) am yr awr olaf.

Llanfachreth, Môn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/9/2016
Gwelediadau:
753
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment